Rhif y ddeiseb: P-06-1294

Teitl y ddeiseb: Peidiwch â gadael cleifion â chanser y fron metastatig yng Nghymru ar ôl  

Geiriad y ddeiseb: Mae pobl sy’n byw â chanser y fron metastatig yng Nghymru yn cael eu hesgeuluso’n ddybryd gan y system.  Ar hyn o bryd dim ond un nyrs glinigol arbenigol canser y fron neilltuedig sydd gan Gymru, sefyllfa a allai adael cannoedd o bobl heb ddigon o gymorth.  Mae angen i ni wybod faint o bobl sy’n byw gyda chanser y fron metastatig er mwyn gwella gwasanaethau. Ac rydym am wella canlyniadau o ran ansawdd bywyd drwy godi ymwybyddiaeth o symptomau baner goch ar gyfer canser y fron metastatig.

Rydym yn galw am y canlynol:
1. Dylai pob person â chanser y fron metastatig yng Nghymru gael mynediad at nyrs glinigol arbenigol neilltuedig ar gyfer canser y fron eilaidd.
2. Dylid casglu data am y rhai sy’n byw â’r cyflwr ac yn cael triniaeth ar ei gyfer yng Nghymru.

Nid yw'r Pwyllgor wedi cael ymateb i'r ddeiseb hon gan Lywodraeth Cymru hyd yma.

 


1.        Y cefndir

Mae yna sawl math gwahanol o ganser y fron, sy'n datblygu mewn gwahanol rannau o'r fron. Mewn cyfran fach o fenywod, canfyddir canser y fron ar ôl iddo ymledu i rannau eraill o'r corff (tarddiad y canser yw meinwe'r fron, yna mae’n ymledu i rannau eraill o'r corff). Gelwir hyn yn ganser y fron metastatig (cyfeirir ato hefyd fel canser eilaidd neu ganser datblygedig y fron). Canser y fron cam 4 ydyw yn ei hanfod.

Symptomau canser y fron metastatig

Mae'r deisebydd am godi ymwybyddiaeth o symptomau canser y fron metastatig, a allai fod yn wahanol i symptomau canser y fron yn y cyfnod cynnar. Weithiau, nid oes dim symptomau o gwbl. Mae canser y fron yn ymledu gan amlaf i'r esgyrn, yr ymennydd, yr afu neu'r ysgyfaint. Mae rhai o'r arwyddion bod canser y fron wedi ymledu yn cynnwys:

§    Poen yn yr esgyrn neu esgyrn yn torri oherwydd bod celloedd tiwmor yn ymledu i'r esgyrn neu’r madruddyn cefn.

§    Cur pen neu bendro pan fydd canser wedi lledaenu i'r ymennydd

§    Prinder anadl, poen yn y frest a pheswch a achosir gan ganser yr ysgyfaint

§    Clefyd melyn, cyfog a'r traed a'r dwylo'n chwyddo os yw'r canser wedi lledu i'r afu/iau

Opsiynau triniaeth ar gyfer canser y fron metastatig.

Mae triniaethau ar gyfer canser y fron metastatig wedi'u cynllunio i leihau tiwmorau ac arafu eu twf, i helpu i leddfu symptomau ac i wella ansawdd bywyd.  Yn hytrach na chael un driniaeth yn unig, mae'r rhan fwyaf o gleifion yn cael sawl triniaeth gyda'i gilydd i helpu i frwydro yn erbyn y canser. Mae’r deisebydd am i “bob person â chanser y fron metastatig yng Nghymru gael mynediad at nyrs glinigol arbenigol neilltuedig ar gyfer canser y fron eilaidd” i’w helpu drwy eu triniaeth.

Mae’r elusen canser ac ymchwil Breast Cancer Now yn dweud:

While metastatic breast cancer cannot be cured, treatments can help control forms of the disease for some time and relieve symptoms to help people live well for as long as possible.

Casglu data

Mae Breast Cancer Now yn amcangyfrif bod canser y fron metastatig ar 35,000 o bobl yn y DU. Mewn tua 5 y cant o fenywod, mae canser y fron eisoes wedi lledu erbyn i’r claf gael diagnosis.

Ym mis Hydref 2021, dywedodd GIG Cymru y byddai'n cymryd rhan yn yr Archwiliad Canser y Fron Metastatig Cenedlaethol cyntaf erioed a gynhaliwyd gan y Bartneriaeth Gwella Ansawdd Gofal Iechyd (HQIP). Dylai'r Archwiliad hwn, am y tro cyntaf, ddarparu ffigurau cywir ynghylch nifer y bobl yng Nghymru a Lloegr y mae canser y fron metastatig arnynt.

Galwodd Breast Cancer Now am yr Archwiliad yn ei adroddiad yn 2019 a ddatgelodd realiti dinistriol y profiad o fyw gyda chanser y fron anwelladwy yn y DU, a bod llawer o bobl yn profi oedi cyn cael diagnosis, yn cael trafferth i gael cymorth gan nyrs arbenigol ac i gael triniaethau a allai newid eu bywyd.

Galwodd yr elusen ar y llywodraethau yn y DU i gasglu data ar ganser y fron metastatig er mwyn gwella diagnosis, triniaeth a chymorth. Disgwylir y bydd y mewnwelediadau cyntaf sy’n deillio o'r Archwiliad yn cael eu darparu yn 2023 ac y bydd yr Archwiliad yn parhau am o leiaf dair blynedd.

2.     Camau gan Lywodraeth Cymru

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei datganiad ansawdd ar gyfer canser  ym mis Mai 2022, ac mae hwn yn disgrifio sut y dylai gwasanaethau canser o ansawdd da weithredu. Disgwylir i gynllun gweithredu ar ganser, o dan arweiniad y GIG, gael ei gyhoeddi rywbryd yr hydref hwn. 

Dyfynnir llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru mewn erthygl ar Wales online ym mis Mehefin 2022  a oedd yn nodi:

We are committed to improving cancer services and outcomes in Wales, including for people with metastatic cancer. Our new cancer information system will enable better service planning for people with metastatic cancer and we are also introducing a national clinical audit that will benchmark the quality of services provided to people with metastatic breast cancer. We will work with the NHS in Wales to reinforce the need for patients to be given information on signs that their cancer has returned and will give further consideration to the role of nurses specialising in metastatic cancer.

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw’r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na’u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.